Gall bob arwerthwr yng Nghymru arddangos dyddiadau a manylion arwerthiannau ar Martcymru yn RHAD AC AM DDIM.
Bydd Martcymru yn bwynt canolog, lle all ffermwyr sydd ac anifeiliaid i werthu, ymwybodi arwerthwyr yn ogystal a phrynnwyr pryd maent yn golygu gwerthu anifeiliaid yn eich marchnad. Bydd eich arwerthiannau yn hawdd i'w ffeindio i brynnwyr, a all chwilio'r wefan am anifeiliaid neu arwerthiant o math arbennig neu ddyddiad penodol. Bydd hyn o fantais i'ch busnes a ddim yn ei niweidio.
Yn syml, y cyfan mae Martcymru yn gwneud yw galluogi ffermwyr i hysbysu i brynnwyr pryd y byddan yn mynd ac anifeiliaid i'r mart i'w gwerthu. Yng nghanol hyn i gyd mae'r marchnadoedd ac arwerthwyr da-byw.
Mae lan-llwytho eich arwerthiannau i'r wefan yn syml, fydd ddim yn treulio amser nac yn costio ceiniog.
Bydd Martcymru yn darparu rhestr o anifeiliaid ar y WE, fydd wedi ei lunio yn awtomatig wrth i ffermwyr gofrestri manylion anifeiliaid ar-lein. Y cyfan sydd rhaid i chi wneud ydu sicrhau fod manylion eich arwerthiannau wedi eu diweddaru. Medrwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen ar-lein syml.
Drwy arddangos eich arwerthiannau rydych yn caniatau ffermwyr i gofrestri manylion anifeiliaid yn electronig a prynnwyr i ddod o hyd i fanylion o'ch dewis am arwerthiant drwy ddefnyddio offer ymchwil Martcymru. Manteision eraill fydd casglu manylion e-bost eich cwsmeriaid er mwyn gwella cysylltiad, gwell system cofrestri fel fydd mwy a mwy o ffermwyr yn cofrestri drwy'r We ac yn rhoi rhybudd fwy o'u bwriad i werthu yn eich mart.
I archebu ID defnyddio ac allweddair ac am wybodaeth am system cronfa ddata Martcymru sydd yn galluogi chi gadw record o anifeiliaid sydd ar gael gan eich ffermwyr, cofrestrwch ar-lein nawr drwy glicio is-law.